Beth yw cofrestru?
Prif ddiben cofrestru yw diogelu'r cyhoedd gan sicrhau mai dim ond y rhai sy'n gymwys ac yn gymwysedig sy'n gallu darparu gofal a chymorth mewn rolau lle mae angen cofrestru.
Mae cofrestru gyda ni yn golygu eich bod yn rhan o weithlu proffesiynol a gallwch ddangos bod gennych sgiliau a gwybodaeth sy'n hanfodol i ddarparu gofal a chymorth da i bobl Cymru.
Dyma ganllaw fideo cyflym ar gofrestru gyda ni.
Pam rydym yn cofrestru
Rydym yn cadw cofrestr o bobl sydd wedi dangos eu bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Rhaid i bawb ar y Gofrestr ddangos eu bod;
- â chymwysterau priodol
- yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymarfer
- bod â'r cymeriad a'r cymhwysedd
- dilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (y Cod) a chanllawiau ymarfer ar gyfer eu rôl
- yn bwriadu ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
- yn ymarfer yn y maes y mae eu cais yn ymwneud â'u cais i gofrestru.
Rydym yn defnyddio Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2020 i gynnal y Gofrestr. Cymeradwyir y rheolau hyn gan Lywodraeth Cymru, a rhain yw'r fframwaith ar gyfer cofrestru'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r rheolau hyn yn weithredol o 1 Ebrill 2020.

Manteision cofrestru
Mae manteision bod yn berson cofrestredig yn cynnwys y canlynol:
Meithrin ymddiriedaeth a hyder
- gall pobl ddibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig
- mae gan bobl hyder o wybod eich bod yn dilyn y Cod
Gwerthfawrogi gweithwyr gofal cymdeithasol
- gallwch ddangos bod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol
- gallwch ddangos eich bod wedi cael hyfforddiant a’ch bod yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau
- gall cyflogwyr ddarparu’r cymorth a’r datblygiad sydd eu hangen arnoch
- trwy wybod mwy amdanoch bydd yn haws i ni gynllunio ffyrdd o’ch cynorthwyo.
Sicrhau bod pobl yn ddiogel
- amddiffyn hawliau pobl a sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad
- cynorthwyo pobl i fod yn annibynnol ac i amddiffyn eu hunain
- os nad yw gweithiwr yn addas i ymarfer, gellir ei dynnu oddi ar y Gofrestr fel nad yw’n gallu ymarfer yng Nghymru.
Manteision eraill
- defnyddio teitl eich proffesiwn yn gyfreithlon
- cymorth a gwybodaeth o’n dogfennau canllawiau ymarfer a’n cyhoeddiadau eraill
- gwahoddiadau i ddigwyddiadau a chynadleddau
- gwahoddiadau i ymgynghoriadau.
Dyma ddau fideo astudiaeth achos sy'n dangos manteision bod yn weithiwr cofrestredig gyda ni.
Pwy sy’n gallu cofrestru
Mae’r Gofrestr yn agored i’r grwpiau gweithwyr canlynol:
- gweithwyr cymdeithasol
- myfyrwyr gradd gwaith cymdeithasol
Rheolwyr gofal cymdeithasol
- rheolwyr gofal preswyl i blant
- rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
- rheolwyr gofal cartref
- rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu (yn orfodol o 2022 ymlaen)
- rheolwyr lleoli oedolion (yn orfodol o 2022 ymlaen)
- rheolwyr eiriolaeth (yn orfodol o 2022 ymlaen)
- rheolwyr gwasanaethau maethu (yn orfodol o 2022 ymlaen)
- rheolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd (yn orfodol o 2022 ymlaen)
Gweithwyr gofal cymdeithasol
- gweithwyr gofal preswyl i blant
- gweithwyr gofal cartref
- gweithwyr cartrefi gofal i oedolion (yn orfodol o Ebrill 2022 ymlaen)
- gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd (yn orfodol o Ebrill 2022 ymlaen)
Mae’n rhaid i’r holl weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gofrestru ar ôl cwblhau eu cymhwyster neu ddechrau yn y swydd.
Mae’n rhaid i weithwyr gofal preswyl i blant a gweithwyr gofal cartref gofrestru o fewn chwe mis i ddechrau eu swydd.
Data ag adroddiadau cofrestru
Ar 14/01/2021 y nifer gyfredol y bobl gofrestredig yw:
- 6,423 - gweithwyr cymdeithasol
- 659 - myfyrwyr gwaith cymdeithasol
- 1,293 - rheolwyr cartrefi gofal oedolion
- 955 - rheolwyr gofal cartref
- 290 - rheolwyr gofal preswyl i blant
- 1 - rheolwr canolfan preswyl i deuluoedd
- 1 - rheolwr gwasanaeth mabwysiadu
- 7 - rheolwr gwasanaeth maethu
- 4 - rheolwyr lleoli oedolion
- 21,504 - gweithwyr gofal cartref
- 2,960 - gweithwyr gofal preswyl i blant
- 552 - gweithiwr cartrefi gofal oedolion.
Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiadau data ar y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phersonau cofrestredig.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.