Pwy yw weithwyr cartrefi gofal i oedolion?
Mae gweithwyr cartrefi gofal i oedolion yn weithwyr a gyflogir gan wasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofalmewn lleoliad yng Nghymru. Mae gwasanaethau cartrefi gofal wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Efallai nad teitl y swydd fydd ‘gweithiwr cartref gofal i oedolion’, ond os bydd gweithiwr yn rhoi gofal a chymorth i oedolion mewn lleoliad gofal a llety, ac mae’r gweithle wedi’i gofrestru gydag AGC, bydd angen iddyn nhw gofrestru gyda ni.
Pryd mae angen i weithwyr gofrestru?
Mae’r Gofrestr ar agor i weithwyr cartrefi gofal i oedolion gofrestru’n wirfoddol o 1 Ebrill 2020 ymlaen.
Sut i gofrestru
Mae tri ffordd o gofrestru cyn y bydd hi’n orfodol i weithwyr cartrefi gofal i oedolion gofrestru ym mis Ebrill 2022.
1. Cofrestru gyda chymhwyster
I weithwyr sydd â chymhwyster ar Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gymhwyster gyfwerth.
Y camau nesaf:
2. Cofrestru yn dilyn cyfnod sefydlu
Gall gweithwyr sy’n newydd i ofal cymdeithasol gofrestru trwy gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru neu Ddyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru.
Y camau nesaf:
Bydd rheolwyr yn gallu helpu gyda pha opsiwn sydd fwyaf addas i weithiwr ei gwblhau.
Cwrs ar ffurf gweithlywr yw'r Fframwaith Sefydlu Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n ymdrin â'r egwyddorion, gwerthoedd, wybodaeth a'r sgiliau y mae angen ar weithwyr er mwyn cyflawni eu rôl yn gymwys. Dyma’r camau nesaf:
- Mae pump adran i'r Fframwaith Sefydlu, gyda phob adran yn cynnwys logiau cynnydd a gweithlyfrau i gynorthwyo’r gweithiwr â’i ddysgu.
- Bydd angen i’r gweithiwr gwblhau’r gweithlyfrau a gofyn i’w reolwr eu hasesu, bydd y rheolwr yn rhoi tystysgrif i'r gweithiwr wedi iddynt eu cwblhau.
- Cyflwyno’r dystysgrif fel tystiolaeth i gefnogi eu cais i gofrestru.
- Ar ôl cofrestru, bydd angen i'r gweithiwr gwblhau cymhwyster ymarfer gofynnol erbyn yr adeg y bydd angen adnewyddu cofrestriad ymhen tair blynedd.
Mae'r cwrs ac asesiad Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion)yn weithlyfr cwestiynau ac atebion ac yn asesiad aml-ddewis ar-lein, y mae’n rhaid i reolwyr enwebu gweithiwr i’w cwblhau. Bydd y gweithiwr yn cael e-bost, gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymuno. Dyma fydd y camau nesaf:
- Pan fydd y gweithiwr wedi cwblhau’r cwrs a’r asesiad yn llwyddiannus, rhaid cyflwyno’r dystysgrif fel tystiolaeth i gefnogi eu cais i gofrestru
- Ar ôl cofrestru, bydd angen i’r weithwyr gwblhau’r cymhwyster ymarfer gofynnol erbyn yr adeg y bydd angen adnewyddu eu gofrestriad ymhen tair blynedd.
3. Cofrestru gyda phrofiad os nad oes gan weithiwr gymhwyster gofynnol
I weithwyr sydd wedi gweithio am dair o’r pum mlynedd diwethaf mewn rôl berthnasol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond sydd heb gymhwyster cydnabyddedig. Bydd rheolwyr yn asesu gweithwyr yn ôl y cymwyseddau gofynnol ac yn rhoi datganiad wedi’i lofnodi i gadarnhau eich cymhwysedd fel ymarferwr cyfreithlon, diogel ac effeithiol.
Y camau nesaf:
- Cael rheolwr y gweithiwr i dystio i'w gymhwysedd.
- Ar ôl i'w reolwr gadarnhau cymhwysedd y gweithiwr, gwneud cais i gofrestru ar GCCarlein.


Beth yw'r ffi cofrestru?
Y ffi er mwyn cofrestru yw £25. Bydd y ffi yn codi i £30 yn 2021/22.
Rhagor o wybodaeth am ffioedd cofrestru.
Pa gyfrifoldebau sydd gan gyflogwyr?
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i gyflogwyr:
- gadarnhau bod gweithiwr yn gymwys i gofrestru (os bydd gweithiwr yn cofrestru heb gymhwyster)
- cymeradwyo ceisiadau
- gwirio manylion adnabod y gweithiwr pan fydd yn gwneud cais, os bydd angen.
Gweler rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau cyflogwyr.
Beth sy’n digwydd ar ôl cofrestru?
Bydd angen i weithwyr dalu ffi flynyddol i gynnal eu cofrestriad a chyflwyno cais i adnewyddu eu cofrestriad bob tair blynedd. Gellir gwneud hyn trwy eu cyfrif GCCarlein.
Rhagor o wybodaeth am adnewyddu cofrestriad.
Beth sy'n digwydd os na fydd gweithwyr yn dilyn y Côd Ymarfer?
Byddwn yn edrych i mewn i ymarfer gweithiwr pan godir pryder. Byddwn yn ystyried os yw ffitrwydd i ymarfer y gweithiwr wedi cael ei amharu (a effeithir yn negyddol).
Os nad yw gweithiwr yn addas i ymarfer, gellir eu tynnu oddi ar y Gofrestr ac ni fyddant yn gallu ymarfer yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth ar sut rydym yn delio a phryderon.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni.